5. Ond meddai Iesu wrthynt, “Oherwydd eich ystyfnigrwydd yr ysgrifennodd ef y gorchymyn hwn ichwi.
6. Ond o ddechreuad y greadigaeth, yn wryw a benyw y gwnaeth Duw hwy.
7. Dyna pam y bydd dyn yn gadael ei dad a'i fam ac yn glynu wrth ei wraig,
8. a bydd y ddau yn un cnawd. Gan hynny nid dau mohonynt mwyach, ond un cnawd.
9. Felly, yr hyn a gysylltodd Duw, peidied neb ei wahanu.”
10. Wedi mynd yn ôl i'r tŷ, holodd ei ddisgyblion ef ynghylch hyn.
11. Ac meddai wrthynt, “Pwy bynnag sy'n ysgaru ei wraig ac yn priodi un arall, y mae'n godinebu yn ei herbyn hi;
12. ac os bydd iddi hithau ysgaru ei gŵr a phriodi un arall, y mae hi'n godinebu.”
13. Yr oeddent yn dod â phlant ato, iddo gyffwrdd â hwy. Ceryddodd y disgyblion hwy,
14. ond pan welodd Iesu hyn aeth yn ddig, a dywedodd wrthynt, “Gadewch i'r plant ddod ataf fi; peidiwch â'u rhwystro, oherwydd i rai fel hwy y mae teyrnas Dduw yn perthyn.
15. Yn wir, rwy'n dweud wrthych, pwy bynnag nad yw'n derbyn teyrnas Dduw yn null plentyn, nid â byth i mewn iddi.”
16. A chymerodd hwy yn ei freichiau a'u bendithio, gan roi ei ddwylo arnynt.
17. Wrth iddo fynd i'w daith, rhedodd rhyw ddyn ato a phenlinio o'i flaen a gofyn iddo, “Athro da, beth a wnaf i etifeddu bywyd tragwyddol?”
18. A dywedodd Iesu wrtho, “Pam yr wyt yn fy ngalw i yn dda? Nid oes neb da ond un, sef Duw.
19. Gwyddost y gorchmynion: ‘Na ladd, na odineba, na ladrata, na chamdystiolaetha, na chamgolleda, anrhydedda dy dad a'th fam.’ ”