Marc 10:14-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

14. ond pan welodd Iesu hyn aeth yn ddig, a dywedodd wrthynt, “Gadewch i'r plant ddod ataf fi; peidiwch â'u rhwystro, oherwydd i rai fel hwy y mae teyrnas Dduw yn perthyn.

15. Yn wir, rwy'n dweud wrthych, pwy bynnag nad yw'n derbyn teyrnas Dduw yn null plentyn, nid â byth i mewn iddi.”

16. A chymerodd hwy yn ei freichiau a'u bendithio, gan roi ei ddwylo arnynt.

17. Wrth iddo fynd i'w daith, rhedodd rhyw ddyn ato a phenlinio o'i flaen a gofyn iddo, “Athro da, beth a wnaf i etifeddu bywyd tragwyddol?”

18. A dywedodd Iesu wrtho, “Pam yr wyt yn fy ngalw i yn dda? Nid oes neb da ond un, sef Duw.

19. Gwyddost y gorchmynion: ‘Na ladd, na odineba, na ladrata, na chamdystiolaetha, na chamgolleda, anrhydedda dy dad a'th fam.’ ”

Marc 10