Malachi 3:9-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Fe'ch melltithiwyd â melltith am eich bod yn fy ysbeilio i, y genedl gyfan ohonoch.

10. Dygwch y degwm llawn i'r trysordy, fel y bo bwyd yn fy nhŷ. Profwch fi yn hyn,” medd ARGLWYDD y Lluoedd, “nes imi agor i chwi ffenestri'r nefoedd a thywallt arnoch fendith yn helaeth.

11. Ceryddaf hefyd y locust, rhag iddo ddifetha cynnyrch eich tir a gwneud eich gwinwydden yn ddiffrwyth,” medd ARGLWYDD y Lluoedd.

12. “Yna bydd yr holl genhedloedd yn dweud, ‘Gwyn eich byd’, oherwydd byddwch yn wlad o hyfrydwch,” medd ARGLWYDD y Lluoedd.

Malachi 3