Malachi 2:11-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Bu Jwda'n dwyllodrus, a gwnaed pethau ffiaidd yn Israel ac yn Jerwsalem; oherwydd halogodd Jwda y cysegr a gâr yr ARGLWYDD trwy briodi merch duw estron.

12. Bydded i'r ARGLWYDD dorri ymaith o bebyll Jacob pwy bynnag a wna hyn, boed dyst neu ddiffynnydd, er iddo ddwyn offrwm i ARGLWYDD y Lluoedd.

13. Dyma beth arall a wnewch: yr ydych yn tywallt dagrau ar allor yr ARGLWYDD, gan wylo a galaru am nad yw ef bellach yn edrych ar eich offrwm nac yn derbyn rhodd gennych.

14. Yr ydych yn gofyn, “Pam?” Am i'r ARGLWYDD fod yn dyst rhyngot ti a gwraig dy ieuenctid, y buost yn anffyddlon iddi, er mai hi yw dy gymar a'th wraig trwy gyfamod.

15. Onid yn un y gwnaeth chwi, yn gnawd ac ysbryd? A beth yw amcan yr undod hwn, ond cael plant i Dduw? Gwyliwch arnoch eich hunain rhag bod yn anffyddlon i wraig eich ieuenctid.

16. “Oherwydd yr wyf yn casáu ysgariad,” medd ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel, “a'r sawl sy'n gwisgo trais fel dilledyn,” medd ARGLWYDD y Lluoedd. Felly, gwyliwch arnoch eich hunain rhag bod yn anffyddlon.

Malachi 2