Malachi 2:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yn awr, offeiriaid, i chwi y mae'r gorchymyn hwn.

2. “Os na wrandewch, a gofalu am anrhydeddu fy enw,” medd ARGLWYDD y Lluoedd, “yna anfonaf felltith arnoch, a melltithiaf eich bendithion; yn wir, yr wyf wedi eu melltithio eisoes, am nad ydych yn ystyried.

3. Wele fi'n torri ymaith eich braich ac yn taflu carthion i'ch wynebau, carthion eich uchelwyliau, ac yn eich troi ymaith oddi wrthyf.

4. Yna cewch wybod imi anfon y gorchymyn hwn atoch, er mwyn parhau fy nghyfamod â Lefi,” medd ARGLWYDD y Lluoedd.

Malachi 2