Malachi 1:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Gair yr ARGLWYDD i Israel trwy Malachi.

2. “Rwy'n eich caru,” medd yr ARGLWYDD, a dywedwch chwithau, “Ym mha ffordd yr wyt yn ein caru?” “Onid yw Esau'n frawd i Jacob?” medd yr ARGLWYDD.

3. “Yr wyf yn caru Jacob, ond yn casáu Esau; gwneuthum ei fynyddoedd yn ddiffeithwch a'i etifeddiaeth yn gartref i siacal yr anialwch.”

Malachi 1