Luc 9:7-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Clywodd y Tywysog Herod am yr holl bethau oedd yn digwydd. Yr oedd mewn cyfyng-gyngor am fod rhai yn dweud fod Ioan wedi ei godi oddi wrth y meirw,

8. ac eraill fod Elias wedi ymddangos, ac eraill wedyn fod un o'r hen broffwydi wedi atgyfodi.

9. Ond meddai Herod, “Fe dorrais i ben Ioan; ond pwy yw hwn yr wyf yn clywed y fath bethau amdano?” Ac yr oedd yn ceisio cael ei weld ef.

10. Dychwelodd yr apostolion a dywedasant wrth Iesu yr holl bethau yr oeddent wedi eu gwneud. Cymerodd hwy gydag ef ac encilio o'r neilltu i dref a elwir Bethsaida.

Luc 9