Luc 9:50-58 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

50. Ond meddai Iesu wrtho, “Peidiwch â gwahardd, oherwydd y sawl nad yw yn eich erbyn, drosoch chwi y mae.”

51. Pan oedd y dyddiau cyn ei gymryd i fyny yn dirwyn i ben, troes ef ei wyneb i fynd i Jerwsalem,

52. ac anfonodd allan negesyddion o'i flaen. Cychwynasant, a mynd i mewn i bentref yn Samaria i baratoi ar ei gyfer.

53. Ond gwrthododd y bobl ei dderbyn am ei fod ar ei ffordd i Jerwsalem.

54. Pan welodd ei ddisgyblion, Iago ac Ioan, hyn, meddent, “Arglwydd, a fynni di inni alw tân i lawr o'r nef a'u dinistrio?”

55. Ond troes ef a'u ceryddu.

56. Ac aethant i bentref arall.

57. Pan oeddent ar y ffordd yn teithio, meddai rhywun wrtho, “Canlynaf di lle bynnag yr ei.”

58. Meddai Iesu wrtho, “Y mae gan y llwynogod ffeuau, a chan adar yr awyr nythod, ond gan Fab y Dyn nid oes lle i roi ei ben i lawr.”

Luc 9