Luc 8:53-56 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

53. Dechreusant chwerthin am ei ben, am eu bod yn sicr ei bod wedi marw.

54. Gafaelodd ef yn ei llaw a dweud yn uchel, “Fy ngeneth, cod.”

55. Yna dychwelodd ei hysbryd, a chododd ar unwaith. Gorchmynnodd ef roi iddi rywbeth i'w fwyta.

56. Syfrdanwyd ei rhieni, ond rhybuddiodd ef hwy i beidio â sôn gair wrth neb am yr hyn oedd wedi digwydd.

Luc 8