Luc 8:50-52 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

50. Ond clywodd Iesu, ac meddai wrtho, “Paid ag ofni; dim ond credu, ac fe'i hachubir.”

51. Pan gyrhaeddodd y tŷ, ni adawodd i neb fynd i mewn gydag ef ond Pedr ac Ioan ac Iago, ynghyd â thad y ferch a'i mam.

52. Yr oedd pawb yn wylo ac yn galaru drosti. Ond meddai ef, “Peidiwch ag wylo; nid yw hi wedi marw, cysgu y mae.”

Luc 8