Luc 8:40-44 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

40. Pan ddychwelodd Iesu croesawyd ef gan y dyrfa, oherwydd yr oedd pawb yn disgwyl amdano.

41. A dyma ddyn o'r enw Jairus yn dod, ac yr oedd ef yn arweinydd yn y synagog; syrthiodd hwn wrth draed Iesu ac ymbil arno i ddod i'w gartref,

42. am fod ganddo unig ferch, ynghylch deuddeng mlwydd oed, a'i bod hi'n marw.Tra oedd ef ar ei ffordd yr oedd y tyrfaoedd yn gwasgu arno.

43. Yr oedd yno wraig ac arni waedlif ers deuddeng mlynedd. Er iddi wario ar feddygon y cwbl oedd ganddi i fyw arno, nid oedd wedi llwyddo i gael gwellhad gan neb.

44. Daeth hon ato o'r tu ôl a chyffwrdd ag ymyl ei fantell; ar unwaith peidiodd llif ei gwaed hi.

Luc 8