Luc 8:4-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Yr oedd tyrfa fawr yn ymgynnull, a phobl o bob tref yn dod ato. Dywedodd ef ar ddameg:

5. “Aeth heuwr allan i hau ei had. Wrth iddo hau, syrthiodd peth had ar hyd y llwybr; sathrwyd arno, a bwytaodd adar yr awyr ef.

6. Syrthiodd peth arall ar y graig; tyfodd, ond gwywodd am nad oedd iddo wlybaniaeth.

7. Syrthiodd peth arall i ganol y drain; tyfodd y drain gydag ef a'i dagu.

8. A syrthiodd peth arall ar dir da; tyfodd, a chnydiodd hyd ganwaith cymaint.” Wrth ddweud hyn fe waeddodd, “Y sawl sydd â chlustiau ganddo i wrando, gwrandawed.”

Luc 8