Luc 7:8-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Oherwydd dyn sy'n cael ei osod dan awdurdod wyf finnau, a chennyf filwyr danaf; byddaf yn dweud wrth hwn, ‘Dos’, ac fe â, ac wrth un arall, ‘Tyrd’, ac fe ddaw, ac wrth fy ngwas, ‘Gwna hyn’, ac fe'i gwna.”

9. Pan glywodd Iesu hyn fe ryfeddodd at y dyn, a chan droi at y dyrfa oedd yn ei ddilyn meddai, “Rwy'n dweud wrthych, ni chefais hyd yn oed yn Israel ffydd mor fawr.”

10. Ac wedi i'r rhai a anfonwyd ddychwelyd i'r tŷ, cawsant y gwas yn holliach.

11. Yn fuan wedyn aeth Iesu i dref a elwir Nain. Gydag ef ar y daith yr oedd ei ddisgyblion a thyrfa fawr.

Luc 7