Luc 7:45-50 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

45. Ni roddaist gusan imi; ond nid yw hon wedi peidio â chusanu fy nhraed byth er pan ddeuthum i mewn.

46. Nid iraist fy mhen ag olew; ond irodd hon fy nhraed ag ennaint.

47. Am hynny rwy'n dweud wrthyt, y mae ei phechodau, er cynifer ydynt, wedi eu maddau; oherwydd y mae ei chariad yn fawr. Os mai ychydig a faddeuwyd i rywun, ychydig yw ei gariad.”

48. Ac wrth y wraig meddai, “Y mae dy bechodau wedi eu maddau.”

49. Yna dechreuodd y gwesteion eraill ddweud wrthynt eu hunain, “Pwy yw hwn sydd hyd yn oed yn maddau pechodau?”

50. Ac meddai ef wrth y wraig, “Y mae dy ffydd wedi dy achub di; dos mewn tangnefedd.”

Luc 7