Luc 7:28-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

28. “Rwy'n dweud wrthych, nid oes ymhlith meibion gwragedd neb mwy na Ioan; ac eto y mae'r lleiaf yn nheyrnas Dduw yn fwy nag ef.”

29. (A chydnabod cyfiawnder Duw a wnaeth yr holl bobl a glywodd, a'r casglwyr trethi hefyd, oherwydd yr oeddent wedi derbyn bedydd Ioan;

30. ond troi heibio fwriad Duw ar eu cyfer a wnaeth y Phariseaid ac athrawon y Gyfraith, oherwydd yr oeddent hwy wedi gwrthod cael eu bedyddio ganddo.)

31. “Â phwy gan hynny y cymharaf bobl y genhedlaeth hon? I bwy y maent yn debyg?

Luc 7