Luc 5:8-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Pan welodd Simon Pedr hyn syrthiodd wrth liniau Iesu gan ddweud, “Dos ymaith oddi wrthyf, oherwydd dyn pechadurus wyf fi, Arglwydd.”

9. Yr oedd ef, a phawb oedd gydag ef, wedi eu syfrdanu o weld y llwyth pysgod yr oeddent wedi eu dal;

10. a'r un modd Iago ac Ioan, meibion Sebedeus, a oedd yn bartneriaid i Simon. Ac meddai Iesu wrth Simon, “Paid ag ofni; o hyn allan dal dynion y byddi di.”

11. Yna daethant â'r cychod yn ôl i'r lan, a gadael popeth, a'i ganlyn ef.

12. Pan oedd Iesu yn un o'r trefi, dyma ddyn yn llawn o'r gwahanglwyf yn ei weld ac yn syrthio ar ei wyneb ac yn ymbil arno, “Syr, os mynni, gelli fy nglanhau.”

Luc 5