Luc 4:11-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. “a hefyd:“ ‘Byddant yn dy godi ar eu dwylorhag iti daro dy droed yn erbyn carreg.’ ”

12. Yna atebodd Iesu ef, “Y mae'r Ysgrythur yn dweud: ‘Paid â gosod yr Arglwydd dy Dduw ar ei brawf.’ ”

13. Ac ar ôl iddo ei demtio ym mhob modd, ymadawodd y diafol ag ef, gan aros ei gyfle.

14. Dychwelodd Iesu yn nerth yr Ysbryd i Galilea. Aeth y sôn amdano ar hyd a lled y gymdogaeth.

15. Yr oedd yn dysgu yn eu synagogau ac yn cael clod gan bawb.

Luc 4