Luc 3:21-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

21. Pan oedd yr holl bobl yn cael eu bedyddio, yr oedd Iesu, ar ôl ei fedydd ef, yn gweddïo. Agorwyd y nef,

22. a disgynnodd yr Ysbryd Glân arno mewn ffurf gorfforol fel colomen; a daeth llais o'r nef: “Ti yw fy Mab, yr Anwylyd; ynot ti yr wyf yn ymhyfrydu.”

23. Tua deng mlwydd ar hugain oed oedd Iesu ar ddechrau ei weinidogaeth. Yr oedd yn fab, yn ôl y dybiaeth gyffredin, i Joseff fab Eli,

24. fab Mathat, fab Lefi, fab Melchi, fab Jannai, fab Joseff,

25. fab Matathias, fab Amos, fab Nahum, fab Esli, fab Nagai,

26. fab Maath, fab Matathias, fab Semein, fab Josech, fab Joda,

Luc 3