1. Yn y bymthegfed flwyddyn o deyrnasiad Tiberius Cesar, pan oedd Pontius Pilat yn llywodraethu ar Jwdea, a Herod yn dywysog Galilea, a phan oedd Philip ei frawd yn dywysog tiriogaeth Itwrea a Trachonitis, a Lysanias yn dywysog Abilene,
2. ac yn amser archoffeiriadaeth Annas a Caiaffas, daeth gair Duw at Ioan fab Sachareias yn yr anialwch.
3. Aeth ef drwy'r holl wlad oddi amgylch yr Iorddonen gan gyhoeddi bedydd edifeirwch yn foddion maddeuant pechodau,
4. fel y mae'n ysgrifenedig yn llyfr geiriau'r proffwyd Eseia:“Llais un yn galw yn yr anialwch,‘Paratowch ffordd yr Arglwydd,unionwch y llwybrau iddo.
5. Caiff pob ceulan ei llenwi,a phob mynydd a bryn ei lefelu;gwneir y llwybrau troellog yn union,a'r ffyrdd garw yn llyfn;
6. a bydd y ddynolryw oll yn gweld iachawdwriaeth Duw.’ ”
7. Dywedai wrth y tyrfaoedd oedd yn dod allan i'w bedyddio ganddo: “Chwi epil gwiberod, pwy a'ch rhybuddiodd i ffoi rhag y digofaint sydd i ddod?
8. Dygwch ffrwythau gan hynny a fydd yn deilwng o'ch edifeirwch. Peidiwch â dechrau dweud wrthych eich hunain, ‘Y mae gennym Abraham yn dad’, oherwydd rwy'n dweud wrthych y gall Duw godi plant i Abraham o'r cerrig hyn.
9. Ac y mae'r fwyell eisoes wrth wraidd y coed; felly, y mae pob coeden nad yw'n dwyn ffrwyth da yn cael ei thorri i lawr a'i bwrw i'r tân.”
10. Gofynnai'r tyrfaoedd iddo, “Beth a wnawn ni felly?”
11. Atebai yntau, “Rhaid i'r sawl sydd ganddo ddau grys eu rhannu ag unrhyw un sydd heb grys, a rhaid i'r sawl sydd ganddo fwyd wneud yr un peth.”