Luc 23:36-41 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

36. Daeth y milwyr hefyd ato a'i watwar, gan gynnig gwin sur iddo,

37. a chan ddweud, “Os ti yw Brenin yr Iddewon, achub dy hun.”

38. Yr oedd hefyd arysgrif uwch ei ben: “Hwn yw Brenin yr Iddewon.”

39. Yr oedd un o'r troseddwyr ar ei groes yn ei gablu gan ddweud, “Onid ti yw'r Meseia? Achub dy hun a ninnau.”

40. Ond atebodd y llall, a'i geryddu: “Onid oes arnat ofn Duw, a thithau dan yr un ddedfryd?

41. I ni, y mae hynny'n gyfiawn, oherwydd haeddiant ein gweithredoedd sy'n dod inni. Ond ni wnaeth hwn ddim o'i le.”

Luc 23