Luc 23:15-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. ac ni chafodd Herod chwaith, oherwydd cyfeiriodd ef ei achos yn ôl atom ni. Fe welwch nad yw wedi gwneud dim sy'n haeddu marwolaeth.

16. Gan hynny, mi ddysgaf wers iddo â'r chwip a'i ollwng yn rhydd.”

18. Ond gwaeddasant ag un llais, “Ymaith â hwn, rhyddha Barabbas inni.”

19. Dyn oedd hwnnw wedi ei fwrw i garchar o achos gwrthryfel a llofruddiaeth oedd wedi digwydd yn y ddinas.

20. Drachefn anerchodd Pilat hwy, yn ei awydd i ryddhau Iesu,

21. ond bloeddiasant hwy, “Croeshoelia ef, croeshoelia ef.”

Luc 23