Luc 22:62-68 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

62. Aeth allan ac wylo'n chwerw.

63. Yr oedd gwarcheidwaid Iesu yn ei watwar a'i guro.

64. Rhoesant orchudd amdano, a dechrau ei holi gan ddweud, “Proffwyda! Pwy a'th drawodd?”

65. A dywedasant lawer o bethau cableddus eraill wrtho.

66. Pan ddaeth yn ddydd, cyfarfu Cyngor henuriaid y bobl, y prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion. Daethant ag ef gerbron eu brawdlys

67. gan ddweud, “Os ti yw'r Meseia, dywed hynny wrthym.” Meddai yntau wrthynt, “Os dywedaf hynny wrthych, fe wrthodwch gredu;

68. ac os holaf chwi, fe wrthodwch ateb.

Luc 22