Luc 22:12-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Ac fe ddengys ef i chwi oruwchystafell fawr wedi ei threfnu; yno paratowch.”

13. Aethant ymaith, a chael fel yr oedd ef wedi dweud wrthynt, a pharatoesant wledd y Pasg.

14. Pan ddaeth yr awr, cymerodd ei le wrth y bwrdd, a'r apostolion gydag ef.

15. Meddai wrthynt, “Mor daer y bûm yn dyheu am gael bwyta gwledd y Pasg hwn gyda chwi cyn imi ddioddef!

16. Oherwydd rwy'n dweud wrthych na fwytâf hi byth hyd nes y cyflawnir hi yn nheyrnas Dduw.”

Luc 22