Luc 21:28-32 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

28. Pan ddechreua'r pethau hyn ddigwydd, ymunionwch a chodwch eich pennau, oherwydd y mae eich rhyddhad yn agosáu.”

29. Adroddodd ddameg wrthynt: “Edrychwch ar y ffigysbren a'r holl goed.

30. Pan fyddant yn dechrau deilio, fe wyddoch eich hunain o'u gweld fod yr haf bellach yn agos.

31. Felly chwithau, pan welwch y pethau hyn yn digwydd, byddwch yn gwybod fod teyrnas Dduw yn agos.

32. Yn wir, rwy'n dweud wrthych, nid â'r genhedlaeth hon heibio nes i'r cwbl ddigwydd.

Luc 21