Luc 20:19-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. Ceisiodd yr ysgrifenyddion a'r prif offeiriaid osod dwylo arno y pryd hwnnw, ond yr oedd arnynt ofn y bobl, oherwydd gwyddent mai yn eu herbyn hwy y dywedodd y ddameg hon.

20. Gwyliasant eu cyfle ac anfon ysbiwyr, yn rhith pobl onest, i'w ddal ef ar air, er mwyn ei draddodi i awdurdod brawdlys y rhaglaw.

21. Gofynasant iddo, “Athro, gwyddom fod dy eiriau a'th ddysgeidiaeth yn gywir; yr wyt yn ddi-dderbyn-wyneb, ac yn dysgu ffordd Duw yn gwbl ddiffuant.

22. A yw'n gyfreithlon inni dalu treth i Gesar, ai nid yw?”

23. Ond deallodd ef eu hystryw, ac meddai wrthynt,

24. “Dangoswch imi ddarn arian. Llun ac arysgrif pwy sydd arno?” “Cesar,” meddent hwy.

Luc 20