Luc 2:29-35 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

29. “Yn awr yr wyt yn gollwng dy was yn rhydd, O Arglwydd,mewn tangnefedd yn unol â'th air;

30. oherwydd y mae fy llygaid wedi gweld dy iachawdwriaeth,

31. a ddarperaist yng ngŵydd yr holl bobloedd:

32. goleuni i fod yn ddatguddiad i'r Cenhedloeddac yn ogoniant i'th bobl Israel.”

33. Yr oedd ei dad a'i fam yn rhyfeddu at y pethau oedd yn cael eu dweud amdano.

34. Yna bendithiodd Simeon hwy, a dywedodd wrth Fair ei fam, “Wele, gosodwyd hwn er cwymp a chyfodiad llawer yn Israel, ac i fod yn arwydd a wrthwynebir;

35. a thithau, trywenir dy enaid di gan gleddyf; felly y datguddir meddyliau calonnau lawer.”

Luc 2