Luc 2:26-38 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

26. Yr oedd wedi cael datguddiad gan yr Ysbryd Glân na welai farwolaeth cyn gweld Meseia'r Arglwydd.

27. Daeth i'r deml dan arweiniad yr Ysbryd; a phan ddaeth y rhieni â'r plentyn Iesu i mewn, i wneud ynglŷn ag ef yn unol ag arfer y Gyfraith,

28. cymerodd Simeon ef i'w freichiau a bendithiodd Dduw gan ddweud:

29. “Yn awr yr wyt yn gollwng dy was yn rhydd, O Arglwydd,mewn tangnefedd yn unol â'th air;

30. oherwydd y mae fy llygaid wedi gweld dy iachawdwriaeth,

31. a ddarperaist yng ngŵydd yr holl bobloedd:

32. goleuni i fod yn ddatguddiad i'r Cenhedloeddac yn ogoniant i'th bobl Israel.”

33. Yr oedd ei dad a'i fam yn rhyfeddu at y pethau oedd yn cael eu dweud amdano.

34. Yna bendithiodd Simeon hwy, a dywedodd wrth Fair ei fam, “Wele, gosodwyd hwn er cwymp a chyfodiad llawer yn Israel, ac i fod yn arwydd a wrthwynebir;

35. a thithau, trywenir dy enaid di gan gleddyf; felly y datguddir meddyliau calonnau lawer.”

36. Yr oedd proffwydes hefyd, Anna merch Phanuel o lwyth Aser. Yr oedd hon yn oedrannus iawn, wedi byw saith mlynedd gyda'i gŵr ar ôl priodi,

37. ac wedi parhau'n weddw nes ei bod yn awr yn bedair a phedwar ugain oed. Ni byddai byth yn ymadael â'r deml, ond yn addoli gan ymprydio a gweddïo ddydd a nos.

38. A'r awr honno safodd hi gerllaw a moli Duw, a llefaru am y plentyn wrth bawb oedd yn disgwyl rhyddhad Jerwsalem.

Luc 2