Luc 2:25-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

25. Yn awr yr oedd dyn yn Jerwsalem o'r enw Simeon; dyn cyfiawn a duwiol oedd hwn, yn disgwyl am ddiddanwch Israel; ac yr oedd yr Ysbryd Glân arno.

26. Yr oedd wedi cael datguddiad gan yr Ysbryd Glân na welai farwolaeth cyn gweld Meseia'r Arglwydd.

27. Daeth i'r deml dan arweiniad yr Ysbryd; a phan ddaeth y rhieni â'r plentyn Iesu i mewn, i wneud ynglŷn ag ef yn unol ag arfer y Gyfraith,

28. cymerodd Simeon ef i'w freichiau a bendithiodd Dduw gan ddweud:

Luc 2