Luc 19:9-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. “Heddiw,” meddai Iesu wrtho, “daeth iachawdwriaeth i'r tŷ hwn, oherwydd mab i Abraham yw'r gŵr hwn yntau.

10. Daeth Mab y Dyn i geisio ac i achub y colledig.”

11. Tra oeddent yn gwrando ar hyn, fe aeth ymlaen i ddweud dameg, am ei fod yn agos i Jerwsalem a hwythau'n tybied fod teyrnas Dduw i ymddangos ar unwaith.

12. Meddai gan hynny, “Aeth dyn o uchel dras i wlad bell i gael ei wneud yn frenin, ac yna dychwelyd i'w deyrnas.

13. Galwodd ato ddeg o'i weision a rhoi darn aur bob un iddynt, gan ddweud wrthynt, ‘Ewch i fasnachu nes imi ddychwelyd.’

14. Ond yr oedd ei ddeiliaid yn ei gasáu, ac anfonasant lysgenhadon ar ei ôl i ddatgan: ‘Ni fynnwn hwn yn frenin arnom.’

Luc 19