Luc 18:39-43 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

39. Yr oedd y rhai ar y blaen yn ei geryddu ac yn dweud wrtho am dewi; ond yr oedd ef yn gweiddi'n uwch fyth, “Fab Dafydd, trugarha wrthyf.”

40. Safodd Iesu, a gorchymyn dod ag ef ato. Wedi i'r dyn nesáu gofynnodd Iesu iddo,

41. “Beth yr wyt ti am i mi ei wneud iti?” Meddai ef, “Syr, mae arnaf eisiau cael fy ngolwg yn ôl.”

42. Dywedodd Iesu wrtho, “Derbyn dy olwg yn ôl; dy ffydd sydd wedi dy iacháu di.”

43. Cafodd ei olwg yn ôl ar unwaith, a dechreuodd ei ganlyn ef gan ogoneddu Duw. Ac o weld hyn rhoddodd yr holl bobl foliant i Dduw.

Luc 18