26. Ac meddai'r gwrandawyr, “Pwy ynteu all gael ei achub?”
27. Atebodd yntau, “Y mae'r hyn sy'n amhosibl gyda dynion yn bosibl gyda Duw.”
28. Yna dywedodd Pedr, “Dyma ni wedi gadael ein heiddo a'th ganlyn di.”
29. Ond meddai ef wrthynt, “Yn wir, rwy'n dweud wrthych nad oes neb a adawodd dŷ neu wraig neu frodyr neu rieni neu blant, er mwyn teyrnas Dduw,
30. na chaiff dderbyn yn ôl lawer gwaith cymaint yn yr amser hwn, ac yn yr oes sy'n dod fywyd tragwyddol.”
31. Cymerodd y Deuddeg gydag ef a dweud wrthynt, “Dyma ni'n mynd i fyny i Jerwsalem, a chyflawnir ar Fab y Dyn bob peth sydd wedi ei ysgrifennu trwy'r proffwydi;
32. oherwydd caiff ei drosglwyddo i'r Cenhedloedd, a'i watwar a'i gam-drin, a phoeri arno;
33. ac wedi ei fflangellu lladdant ef, a'r trydydd dydd fe atgyfoda.” Nid oeddent hwy yn deall dim o hyn;
34. yr oedd y peth hwn wedi ei guddio rhagddynt, a'i eiriau y tu hwnt i'w hamgyffred.
35. Wrth iddo nesáu at Jericho, yr oedd dyn dall yn eistedd ar fin y ffordd yn cardota.
36. Pan glywodd y dyrfa yn dod gofynnodd beth oedd hynny,
37. a mynegwyd iddo fod Iesu o Nasareth yn mynd heibio.
38. Bloeddiodd yntau, “Iesu, Fab Dafydd, trugarha wrthyf.”
39. Yr oedd y rhai ar y blaen yn ei geryddu ac yn dweud wrtho am dewi; ond yr oedd ef yn gweiddi'n uwch fyth, “Fab Dafydd, trugarha wrthyf.”
40. Safodd Iesu, a gorchymyn dod ag ef ato. Wedi i'r dyn nesáu gofynnodd Iesu iddo,
41. “Beth yr wyt ti am i mi ei wneud iti?” Meddai ef, “Syr, mae arnaf eisiau cael fy ngolwg yn ôl.”
42. Dywedodd Iesu wrtho, “Derbyn dy olwg yn ôl; dy ffydd sydd wedi dy iacháu di.”
43. Cafodd ei olwg yn ôl ar unwaith, a dechreuodd ei ganlyn ef gan ogoneddu Duw. Ac o weld hyn rhoddodd yr holl bobl foliant i Dduw.