Luc 17:5-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Meddai'r apostolion wrth yr Arglwydd, “Cryfha ein ffydd.”

6. Ac meddai'r Arglwydd, “Pe bai gennych ffydd gymaint â hedyn mwstard, fe allech ddweud wrth y forwydden hon, ‘Coder dy wreiddiau a phlanner di yn y môr’, a byddai'n ufuddhau i chwi.

7. “Os oes gan un ohonoch was sy'n aredig neu'n bugeilio, a fydd yn dweud wrtho pan ddaw i mewn o'r caeau, ‘Tyrd yma ar unwaith a chymer dy le wrth y bwrdd’?

8. Na, yr hyn a ddywed fydd, ‘Paratoa swper imi; torcha dy wisg a gweina arnaf nes imi orffen bwyta ac yfed; ac wedyn cei fwyta ac yfed dy hun.’

9. A yw'n diolch i'w was am gyflawni'r gorchmynion a gafodd?

10. Felly chwithau; pan fyddwch wedi cyflawni'r holl orchmynion a gawsoch, dywedwch, ‘Gweision ydym, heb unrhyw deilyngdod; cyflawni ein dyletswydd a wnaethom.’ ”

11. Yr oedd ef, ar ei ffordd i Jerwsalem, yn mynd trwy'r wlad rhwng Samaria a Galilea,

12. ac yn mynd i mewn i ryw bentref, pan ddaeth deg o ddynion gwahanglwyfus i gyfarfod ag ef. Safasant bellter oddi wrtho

13. a chodi eu lleisiau arno: “Iesu, feistr, trugarha wrthym.”

14. Gwelodd ef hwy ac meddai wrthynt, “Ewch i'ch dangos eich hunain i'r offeiriaid.” Ac ar eu ffordd yno, fe'u glanhawyd hwy.

Luc 17