Luc 17:27-37 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

27. yr oedd pobl yn bwyta, yn yfed, yn cymryd gwragedd, yn cael gwŷr, hyd y dydd yr aeth Noa i mewn i'r arch ac y daeth y dilyw a difa pawb.

28. Fel y bu hi yn nyddiau Lot: yr oedd pobl yn bwyta, yn yfed, yn prynu, yn gwerthu, yn plannu, yn adeiladu;

29. ond y dydd yr aeth Lot allan o Sodom, fe lawiodd tân a brwmstan o'r nef a difa pawb.

30. Yn union felly y bydd hi yn y dydd y datguddir Mab y Dyn.

31. Y dydd hwnnw, os bydd rhywun ar y to, a'i bethau yn y tŷ, peidied â mynd i lawr i'w cipio; a'r un modd peidied neb fydd yn y cae â throi yn ei ôl.

32. Cofiwch wraig Lot.

33. Pwy bynnag a gais gadw ei fywyd ei hun, fe'i cyll, a phwy bynnag a'i cyll, fe'i ceidw yn fyw.

34. Rwy'n dweud wrthych, y nos honno bydd dau mewn un gwely; cymerir y naill a gadewir y llall.

35. Bydd dwy wraig yn malu yn yr un lle; cymerir y naill a gadewir y llall.”

37. Ac atebasant hwythau ef, “Ble, Arglwydd?” Meddai ef wrthynt, “Lle bydd y gelain, yno yr heidia'r fwlturiaid.”

Luc 17