Luc 17:14-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

14. Gwelodd ef hwy ac meddai wrthynt, “Ewch i'ch dangos eich hunain i'r offeiriaid.” Ac ar eu ffordd yno, fe'u glanhawyd hwy.

15. Ac un ohonynt, pan welodd ei fod wedi ei iacháu, a ddychwelodd gan ogoneddu Duw â llais uchel.

16. Syrthiodd ar ei wyneb wrth draed Iesu gan ddiolch iddo; a Samariad oedd ef.

17. Atebodd Iesu, “Oni lanhawyd y deg? Ble mae'r naw?

18. Ai'r estron hwn yn unig a gafwyd i ddychwelyd ac i roi gogoniant i Dduw?”

19. Yna meddai wrtho, “Cod, a dos ar dy hynt; dy ffydd sydd wedi dy iacháu di.”

20. Gofynnwyd iddo gan y Phariseaid pryd y deuai teyrnas Dduw. Atebodd hwy, “Nid rhywbeth i wylio amdano yw dyfodiad teyrnas Dduw.

21. Ni bydd pobl yn dweud, ‘Dyma hi’, neu ‘Dacw hi’; edrychwch, y mae teyrnas Dduw yn eich plith chwi.”

22. Ac meddai wrth ei ddisgyblion, “Daw dyddiau pan fyddwch yn dyheu am gael gweld un o ddyddiau Mab y Dyn, ac ni welwch mohono.

23. Dywedant wrthych, ‘Dacw ef’, neu ‘Dyma ef’; peidiwch â mynd, peidiwch â rhedeg ar eu hôl.

Luc 17