Luc 17:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Dywedodd wrth ei ddisgyblion, “Y mae achosion cwymp yn rhwym o ddod, ond gwae'r sawl sy'n gyfrifol amdanynt;

2. byddai'n well iddo fod wedi ei daflu i'r môr â maen melin ynghrog am ei wddf, nag iddo fod yn achos cwymp i un o'r rhai bychain hyn.

3. Cymerwch ofal. Os pecha dy gyfaill, cerydda ef; os edifarha, maddau iddo;

4. os pecha yn dy erbyn saith gwaith mewn diwrnod, ac eto troi'n ôl atat saith gwaith gan ddweud, ‘Y mae'n edifar gennyf’, maddau iddo.”

5. Meddai'r apostolion wrth yr Arglwydd, “Cryfha ein ffydd.”

Luc 17