Luc 17:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Dywedodd wrth ei ddisgyblion, “Y mae achosion cwymp yn rhwym o ddod, ond gwae'r sawl sy'n gyfrifol amdanynt;

2. byddai'n well iddo fod wedi ei daflu i'r môr â maen melin ynghrog am ei wddf, nag iddo fod yn achos cwymp i un o'r rhai bychain hyn.

3. Cymerwch ofal. Os pecha dy gyfaill, cerydda ef; os edifarha, maddau iddo;

4. os pecha yn dy erbyn saith gwaith mewn diwrnod, ac eto troi'n ôl atat saith gwaith gan ddweud, ‘Y mae'n edifar gennyf’, maddau iddo.”

Luc 17