Luc 16:25-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

25. ‘Fy mhlentyn,’ meddai Abraham, ‘cofia iti dderbyn dy wynfyd yn ystod dy fywyd, a Lasarus yr un modd ei adfyd; yn awr y mae ef yma yn cael ei ddiddanu, a thithau yn dioddef mewn ingoedd.

26. Heblaw hyn oll, rhyngom ni a chwi y mae agendor llydan wedi ei osod, rhag i neb a ddymunai hynny groesi oddi yma atoch chwi, neu gyrraedd oddi yna atom ni.’

27. Atebodd ef, ‘Os felly, fy nhad, rwy'n erfyn arnat ei anfon ef i dŷ fy nhad,

28. at y pum brawd sydd gennyf, i'w rhybuddio am y cyfan, rhag iddynt hwythau ddod i'w harteithio yn y lle hwn.’

29. Ond dywedodd Abraham, ‘Y mae Moses a'r proffwydi ganddynt; dylent wrando arnynt hwy.’

Luc 16