24. A galwodd, ‘Abraham, fy nhad, trugarha wrthyf; anfon Lasarus i wlychu blaen ei fys mewn dŵr ac i oeri fy nhafod, oherwydd yr wyf mewn ingoedd yn y tân hwn.’
25. ‘Fy mhlentyn,’ meddai Abraham, ‘cofia iti dderbyn dy wynfyd yn ystod dy fywyd, a Lasarus yr un modd ei adfyd; yn awr y mae ef yma yn cael ei ddiddanu, a thithau yn dioddef mewn ingoedd.
26. Heblaw hyn oll, rhyngom ni a chwi y mae agendor llydan wedi ei osod, rhag i neb a ddymunai hynny groesi oddi yma atoch chwi, neu gyrraedd oddi yna atom ni.’
27. Atebodd ef, ‘Os felly, fy nhad, rwy'n erfyn arnat ei anfon ef i dŷ fy nhad,
28. at y pum brawd sydd gennyf, i'w rhybuddio am y cyfan, rhag iddynt hwythau ddod i'w harteithio yn y lle hwn.’
29. Ond dywedodd Abraham, ‘Y mae Moses a'r proffwydi ganddynt; dylent wrando arnynt hwy.’
30. ‘Nage, Abraham, fy nhad,’ atebodd ef, ‘ond os â rhywun atynt oddi wrth y meirw, fe edifarhânt.’
31. Ond meddai ef wrtho, ‘Os nad ydynt yn gwrando ar Moses a'r proffwydi, yna ni chânt eu hargyhoeddi hyd yn oed os atgyfoda rhywun o blith y meirw.’ ”