Luc 16:20-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

20. Wrth ei ddrws gorweddai dyn tlawd, o'r enw Lasarus, yn llawn cornwydydd,

21. ac yn dyheu am wneud pryd o'r hyn a syrthiai oddi ar fwrdd y dyn cyfoethog; ac yn wir byddai'r cŵn yn dod i lyfu ei gornwydydd.

22. Bu farw'r dyn tlawd, a dygwyd ef ymaith gan yr angylion i wledda wrth ochr Abraham. Bu farw'r dyn cyfoethog yntau, a chladdwyd ef.

23. Yn Hades, ac yntau mewn poen arteithiol, cododd ei lygaid a gweld Abraham o bell, a Lasarus wrth ei ochr.

24. A galwodd, ‘Abraham, fy nhad, trugarha wrthyf; anfon Lasarus i wlychu blaen ei fys mewn dŵr ac i oeri fy nhafod, oherwydd yr wyf mewn ingoedd yn y tân hwn.’

25. ‘Fy mhlentyn,’ meddai Abraham, ‘cofia iti dderbyn dy wynfyd yn ystod dy fywyd, a Lasarus yr un modd ei adfyd; yn awr y mae ef yma yn cael ei ddiddanu, a thithau yn dioddef mewn ingoedd.

26. Heblaw hyn oll, rhyngom ni a chwi y mae agendor llydan wedi ei osod, rhag i neb a ddymunai hynny groesi oddi yma atoch chwi, neu gyrraedd oddi yna atom ni.’

27. Atebodd ef, ‘Os felly, fy nhad, rwy'n erfyn arnat ei anfon ef i dŷ fy nhad,

28. at y pum brawd sydd gennyf, i'w rhybuddio am y cyfan, rhag iddynt hwythau ddod i'w harteithio yn y lle hwn.’

29. Ond dywedodd Abraham, ‘Y mae Moses a'r proffwydi ganddynt; dylent wrando arnynt hwy.’

30. ‘Nage, Abraham, fy nhad,’ atebodd ef, ‘ond os â rhywun atynt oddi wrth y meirw, fe edifarhânt.’

Luc 16