Luc 15:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yr oedd yr holl gasglwyr trethi a'r pechaduriaid yn nesáu ato i wrando arno.

2. Ond yr oedd y Phariseaid a'r ysgrifenyddion yn grwgnach ymhlith ei gilydd, gan ddweud, “Y mae hwn yn croesawu pechaduriaid ac yn cydfwyta gyda hwy.”

3. A dywedodd ef y ddameg hon wrthynt:

4. “Bwriwch fod gan un ohonoch chwi gant o ddefaid, a digwydd iddo golli un ohonynt; onid yw'n gadael y naw deg a naw yn yr anialdir ac yn mynd ar ôl y ddafad golledig nes dod o hyd iddi?

5. Wedi dod o hyd iddi y mae'n ei gosod ar ei ysgwyddau yn llawen,

6. yn mynd adref, ac yn gwahodd ei gyfeillion a'i gymdogion ynghyd, gan ddweud wrthynt, ‘Llawenhewch gyda mi, oherwydd yr wyf wedi cael hyd i'm dafad golledig.’

Luc 15