Luc 14:7-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Yna adroddodd ddameg wrth y gwesteion, wrth iddo sylwi sut yr oeddent yn dewis y seddau anrhydedd:

8. “Pan wahoddir di gan rywun i wledd briodas, paid â chymryd y lle anrhydedd, rhag ofn ei fod wedi gwahodd rhywun amlycach na thi;

9. oherwydd os felly, daw'r sawl a'ch gwahoddodd chwi'ch dau a dweud wrthyt, ‘Rho dy le i hwn’, ac yna byddi dithau mewn cywilydd yn cymryd y lle isaf.

10. Yn hytrach, pan wahoddir di, dos a chymer y lle isaf, fel pan ddaw'r gwahoddwr y dywed wrthyt, ‘Gyfaill, tyrd yn uwch’; yna dangosir parch iti yng ngŵydd dy holl gyd-westeion.

11. Oherwydd darostyngir pob un sy'n ei ddyrchafu ei hun, a dyrchefir pob un sy'n ei ddarostwng ei hun.”

12. Meddai hefyd wrth ei wahoddwr, “Pan fyddi'n trefnu cinio neu swper, paid â gwahodd dy gyfeillion na'th frodyr na'th berthnasau na'th gymdogion cyfoethog, rhag ofn iddynt hwythau yn eu tro dy wahodd di, ac iti gael dy ad-dalu.

13. Pan fyddi'n trefnu gwledd, gwahodd yn hytrach y tlodion, yr anafusion, y cloffion, a'r deillion;

14. a gwyn fydd dy fyd, am nad oes ganddynt fodd i dalu'n ôl iti; cei dy dalu'n ôl yn atgyfodiad y cyfiawn.”

15. Clywodd un o'i gyd-westeion hyn ac meddai wrtho, “Gwyn ei fyd pwy bynnag a gaiff gyfran yn y wledd yn nheyrnas Dduw.”

16. Ond meddai ef wrtho, “Yr oedd dyn yn trefnu gwledd fawr. Gwahoddodd lawer o bobl,

17. ac anfonodd ei was ar awr y wledd i ddweud wrth y gwahoddedigion, ‘Dewch, y mae popeth yn barod yn awr.’

18. Ond dechreuodd pawb ymesgusodi yn unfryd. Meddai'r cyntaf wrtho, ‘Rwyf wedi prynu cae, ac y mae'n rhaid imi fynd allan i gael golwg arno; a wnei di fy esgusodi, os gweli di'n dda?’

19. Meddai un arall, ‘Rwyf wedi prynu pum pâr o ychen, ac rwyf ar fy ffordd i roi prawf arnynt; a wnei di fy esgusodi, os gweli di'n dda?’

20. Ac meddai un arall, ‘Rwyf newydd briodi, ac am hynny ni allaf ddod.’

21. Aeth y gwas at ei feistr a rhoi gwybod iddo. Yna digiodd meistr y tŷ, ac meddai wrth ei was, ‘Dos allan ar unwaith i heolydd a strydoedd cefn y dref, a thyrd â'r tlodion a'r anafusion a'r deillion a'r cloffion i mewn yma.’

22. Pan ddywedodd y gwas, ‘Meistr, y mae dy orchymyn wedi ei gyflawni, ond y mae lle o hyd’,

23. meddai ei feistr wrtho, ‘Dos allan i'r ffyrdd ac i'r cloddiau, a myn ganddynt hwy ddod i mewn, fel y llenwir fy nhŷ;

24. oherwydd rwy'n dweud wrthych na chaiff dim un o'r rheini oedd wedi eu gwahodd brofi fy ngwledd.’ ”

Luc 14