Luc 14:2-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. Ac yno ger ei fron yr oedd dyn â'r dropsi arno.

3. A llefarodd Iesu wrth athrawon y Gyfraith a'r Phariseaid, gan ddweud, “A yw'n gyfreithlon iacháu ar y Saboth, ai nid yw?”

4. Ond ni ddywedasant hwy ddim. Yna cymerodd y claf a'i iacháu a'i anfon ymaith.

5. Ac meddai wrthynt, “Pe bai mab neu ych unrhyw un ohonoch yn syrthio i bydew, oni fyddech yn ei dynnu allan ar unwaith, hyd yn oed ar y dydd Saboth?”

6. Ni allent gynnig unrhyw ateb i hyn.

Luc 14