Luc 13:8-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Ond atebodd ef, ‘Meistr, gad iddo eleni eto, imi balu o'i gwmpas a'i wrteithio.

9. Ac os daw â ffrwyth y flwyddyn nesaf, popeth yn iawn; onid e, cei ei dorri i lawr.’ ”

10. Yr oedd yn dysgu yn un o'r synagogau ar y Saboth.

11. Yr oedd yno wraig oedd ers deunaw mlynedd yng ngafael ysbryd oedd wedi bod yn ei gwanychu nes ei bod yn wargrwm ac yn hollol analluog i sefyll yn syth.

12. Pan welodd Iesu hi galwodd arni, “Wraig, yr wyt wedi dy waredu o'th wendid.”

13. Yna dododd ei ddwylo arni, ac ar unwaith ymunionodd drachefn, a dechrau gogoneddu Duw.

Luc 13