Luc 13:34-35 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

34. Jerwsalem, Jerwsalem, tydi sy'n lladd y proffwydi ac yn llabyddio'r rhai a anfonwyd atat, mor aml y dymunais gasglu dy blant ynghyd, fel y mae iâr yn casglu ei chywion dan ei hadenydd, ond gwrthod a wnaethoch.

35. Wele, y mae eich tŷ yn cael ei adael yn anghyfannedd. Ac rwy'n dweud wrthych, ni chewch fy ngweld hyd y dydd pan ddywedwch, ‘Bendigedig yw'r un sy'n dod yn enw'r Arglwydd.’ ”

Luc 13