Luc 12:42-45 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

42. Dywedodd yr Arglwydd, “Pwy ynteu yw'r goruchwyliwr ffyddlon a chall a osodir gan ei feistr dros ei weision, i roi eu dogn bwyd iddynt yn ei bryd?

43. Gwyn ei fyd y gwas hwnnw a geir yn gwneud felly gan ei feistr pan ddaw;

44. yn wir, rwy'n dweud wrthych y gesyd ef dros ei holl eiddo.

45. Ond os dywed y gwas hwnnw yn ei galon, ‘Y mae fy meistr yn oedi dod’, a dechrau curo'r gweision a'r morynion, a bwyta ac yfed a meddwi,

Luc 12