Luc 12:13-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. Meddai rhywun o'r dyrfa wrtho, “Athro, dywed wrth fy mrawd am roi i mi fy nghyfran o'n hetifeddiaeth.”

14. Ond meddai ef wrtho, “Ddyn, pwy a'm penododd i yn farnwr neu yn gymrodeddwr rhyngoch?”

15. A dywedodd wrthynt, “Gofalwch ymgadw rhag trachwant o bob math, oherwydd, er cymaint ei gyfoeth, nid yw bywyd neb yn dibynnu ar ei feddiannau.”

16. Ac adroddodd ddameg wrthynt: “Yr oedd tir rhyw ŵr cyfoethog wedi dwyn cnwd da.

17. A dechreuodd feddwl a dweud wrtho'i hun, ‘Beth a wnaf fi, oherwydd nid oes gennyf unman i gasglu fy nghnydau iddo?’

Luc 12