Luc 11:45-54 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

45. Atebodd un o athrawon y Gyfraith ef, “Athro, wrth ddweud hyn yr wyt yn ein sarhau ninnau.”

46. Meddai ef, “Gwae chwithau athrawon y Gyfraith, oherwydd yr ydych yn beichio pobl â beichiau anodd eu dwyn, beichiau nad yw un o'ch bysedd chwi byth yn cyffwrdd â hwy.

47. Gwae chwi, oherwydd yr ydych yn codi beddfeini i'r proffwydi, ond eich hynafiaid chwi a'u lladdodd.

48. Gan hynny, yn ôl eich tystiolaeth eich hunain, yr ydych yn cymeradwyo gweithredoedd eich hynafiaid, oherwydd hwy a'u lladdodd, a chwi sy'n codi'r beddfeini.

49. Am hynny hefyd y dywedodd Doethineb Duw, ‘Anfonaf atynt broffwydi ac apostolion, a byddant yn lladd ac yn erlid rhai ohonynt’;

50. ac felly gelwir y genhedlaeth hon i gyfrif am waed yr holl broffwydi, a dywalltwyd er seiliad y byd,

51. o waed Abel hyd at waed Sechareia, a drengodd rhwng yr allor a'r cysegr. Ie, rwy'n dweud wrthych, fe elwir y genhedlaeth hon i gyfrif amdano.

52. Gwae chwi athrawon y Gyfraith, oherwydd ichwi gymryd ymaith allwedd gwybodaeth; nid aethoch i mewn eich hunain, a'r rhai oedd am fynd i mewn, eu rhwystro a wnaethoch.”

53. Wedi iddo fynd allan oddi yno dechreuodd yr ysgrifenyddion a'r Phariseaid fagu dig tuag ato, a'i holi yn fanwl ynghylch llawer o bethau,

54. gan aros fel helwyr i'w faglu ar ryw air o'i enau.

Luc 11