2. Dywedodd wrthynt, “Y mae'r cynhaeaf yn fawr ond y gweithwyr yn brin; deisyfwch felly ar arglwydd y cynhaeaf i anfon gweithwyr i'w gynhaeaf.
3. Ewch; dyma fi'n eich anfon allan fel ŵyn i blith bleiddiaid.
4. Peidiwch â chario na phwrs na chod na sandalau, a pheidiwch â chyfarch neb ar y ffordd.
5. Pa dŷ bynnag yr ewch i mewn iddo, dywedwch yn gyntaf, ‘Tangnefedd i'r teulu hwn.’
6. Os bydd yno rywun tangnefeddus, bydd eich tangnefedd yn gorffwys arno ef; onid e, bydd yn dychwelyd atoch chwi.
7. Arhoswch yn y tŷ hwnnw, a bwyta ac yfed yr hyn a gewch ganddynt, oherwydd y mae'r gweithiwr yn haeddu ei gyflog. Peidiwch â symud o dŷ i dŷ.
8. Ac i ba dref bynnag yr ewch, a chael derbyniad, bwytewch yr hyn a osodir o'ch blaen.
9. Iachewch y cleifion yno, a dywedwch wrthynt, ‘Y mae teyrnas Dduw wedi dod yn agos atoch.’