Luc 10:12-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Rwy'n dweud wrthych y caiff Sodom ar y Dydd hwnnw lai i'w ddioddef na'r dref honno.

13. “Gwae di, Chorasin! Gwae di, Bethsaida! Oherwydd petai'r gwyrthiau a wnaethpwyd ynoch chwi wedi eu gwneud yn Tyrus a Sidon, buasent wedi edifarhau erstalwm, gan eistedd mewn sachliain a lludw.

14. Eto, caiff Tyrus a Sidon lai i'w ddioddef yn y Farn na chwi.

15. A thithau, Capernaum,“ ‘A ddyrchefir di hyd nef?Byddi'n disgyn hyd Hades.’

Luc 10