Luc 1:77-80 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

77. i roi i'w bobl wybodaeth am waredigaethtrwy faddeuant eu pechodau.

78. Hyn yw trugaredd calon ein Duw—fe ddaw â'r wawrddydd oddi uchod i'n plith,

79. i lewyrchu ar y rhai sy'n eistedd yn nhywyllwch cysgod angau,a chyfeirio ein traed i ffordd tangnefedd.”

80. Yr oedd y plentyn yn tyfu ac yn cryfhau yn ei ysbryd; a bu yn yr anialwch hyd y dydd y dangoswyd ef i Israel.

Luc 1